Digwyddiadau
Dros y misoedd nesaf, mi fydd ein digwyddiadau’n canolbwyntio ar Gymru, ac yn trafod y cwestiwn: Pa fath o Gymru hoffech chi fyw ynddi – a sut mae cyrraedd yno?
Trwy cyfres o weithdau ar-lein, ein nod yw siarad ag amrywiaeth eang o wahanol bobl yn ardal Aberystwyth a Ceredigion/Canolbarth Cymru, yn cynnwys pobl na fuasen nhw o reidrwydd yn cyfrannu fel arfer at drafodaethau am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Yn sgil y trafodaethau hynny, ry’n ni eisiau dod i wybod mwy am faterion sydd o bwys i chi, er mwyn deall yn well sut y dylid yn y dyfodol wneud penderfyniadau yng Nghymru sy’n effeithio ar ein bywydau ni i gyd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau, cysylltwch â Anwen Elias.
Sgyrsiau ar-lein
7.00-8.30yh, Iau 15eg a Llun 19eg Gorffennaf, 2021
Bydd y sgyrsiau’n annfurfiol a chyfeillgar dros Zoom – dewch a’ch dished gyda chi, a croeso i blant ac anifeiliaid anwes hefyd!
Y bwriad yw cynnig cyfle i chi rannu’ch profiadau chi o faterion sy’n bwysig i chi fel unigolyn, eich cymuned neu’r grwpiau rydych yn aelod ohonynt – a’u trafod gydag eraill o’r ardal.
Nid oes angen ichi wybod dim yn benodol o flaen llaw; bydd y sgyrsiau’n ffocysu ar fywyd bob dydd.
Os hoffech ymuno a’r gweithdai yma, gallwch gofrestru yma: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/what-kind-of-wales
Gweithdai barddoniaeth gyda Eurig Salisbury
Dyddiadau i’w cadarnhau
Yn y gweithdai yma, mi fydd y bard a’r awdur Eurig Salisbury yn gweithio gyda chi i ymateb i’r cwestiwn ‘Pa fath o Gymru hoffech chi fyw ynddi – a sut mae cyrraedd yno?’
Bydd y gweithdai hyn yn rhai cyfeillgar ac anffurfiol, a byddwch yn cael cyfle i fynegi’n greadigol eich syniadau chi am ddyfodol Cymru. Bydd Eurig yn eich arwain drwy’r broses greadigol – o ddatblygu syniadau i roi sglein ar linellau unigol. Nid oes angen ichi wybod dim yn benodol o flaen llaw, yr unig beth sydd angen yw parodrwydd i rannu profiadau gyda pobl eraill o’r ardal.
Bydd y gweithdai yma’n cael eu cynnal yn Gymraeg. Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Anwen.