Dyfodol Cyfansoddiadol

Llunio trafodaeth newydd

Yn sgil Brexit a phandemig Covid-19, mae trafodaethau newydd wedi codi ynghylch awdurdod gwleidyddol ar draws y Deyrnas Gyfunol. Rhoir pwysau cynyddol ar gyfansoddiad tiriogaethol y DU o fwy nag un cyfeiriad: ail refferendwm posib ar annibyniaeth yn yr Alban; cwestiynau ynghylch diben ac effeithiolrwydd Awdurdodau Cyfun Lloegr; ac ansicrwydd ynghylch safle Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn yr Undeb Ewropeaidd yn sgil Brexit. Yma yng Nghymru, mae mwy o le nag erioed i faterion cyfansoddiadol pwysig ar yr agenda wleidyddol. Yn etholiadau’r Senedd fis Mai 2021, cafwyd ymgyrchoedd o blaid diddymu’r Senedd ac o blaid annibyniaeth, ac addawodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai’n cynnal ‘trafodaeth genedlaethol’ am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Sendedd

Does dim amheuaeth fod y materion hyn i gyd yn fygythiad i sefydlogrwydd gwladwriaeth y DU ac i’w gallu i fod yn unedig. Fodd bynnag, hyd yn hyn, mae’r drafodaeth ynghylch dyfodol cyfansoddiadol y DU wedi ei llywio’n bennaf gan sylwadau achlysurol gan wleidyddion a sylwebyddion; ychydig iawn o drafod o ddifri sydd ynghylch dyfodol cyfansoddiadol y DU.

Yn fwy na dim, er gwaethaf y ffaith fod penderfyniadau ynghylch awdurdod gwleidyddol a threfn diriogaethol yn cael effaith bellgyrhaeddol ar ein bywydau bob dydd, prin yw’r cyfleon i feddwl am y materion hyn nac i gyfrannu at y drafodaeth ar gyfansoddiad tiriogaethol y DU.

Nod y prosiect hwn yw creu trafodaeth newydd ynghylch sut y dylid llywodraethu Cymru, a hynny er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o’r newydd. Mae’n datblygu ffyrdd arloesol i sicrhau ein bod ni i gyd yn rhan o’r drafodaeth ynghylch llywodraethu tiriogaethol, pwnc sy’n aml yn effeithio ar bawb ond un nad yw bob tro’n eu cynnwys.