Galwad

Galwad ar Gyfer Pobl Ifanc 16-26 oed

Pa fath o Gymru fyddech chi’n hoffi byw ynddi, a sut allwn ni gyrraedd yno?

  • Ydych chi rhwng 16 a 26 oed?
  • Ydych chi’n byw neu wedi’ch geni yng Nghymru?
  • Hoffech chi ennill £10 yr awr?
  • Hoffech chi helpu i ffurfio gweledigaeth newydd o Gymru a’i lle yn y DU?

Rydyn ni eich angen chi!!

Rydyn ni’n ceisio dechrau sgyrsiau newydd am ddyfodol Cymru. Rydym yn gwneud hynny trwy ofyn y cwestiwn ‘Pa fath o Gymru fyddech chi’n hoffi byw ynddi, a sut allwn ni gyrraedd yno?’ Rydyn ni am siarad gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru, i gasglu eu syniadau am sut y dylai sgyrsiau o’r fath ddigwydd.

Does dim angen profiad, gwybodaeth na diddordeb mewn democratiaeth/gwleidyddiaeth!

Pwy all gymryd rhan?

Caiff unrhyw un rhwng 16 a 26 oed sydd wedi’u geni neu sy’n byw yng Nghymru gymryd rhan. Mae gennym ni gyllid i dalu 12 o bobl ifanc am eu hamser. Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed gennych chi:

  • os ydych chi’n casáu gwleidyddiaeth
  • os ydych chi’n caru gwleidyddiaeth
  • os nad ydych chi wedi pleidleisio erioed/wastad wedi pleidleisio/ddim yn bwriadu pleidleisio byth/yn meddwl bod y cyfan yn wastraff amser/yn credu’n gryf mewn democratiaeth/heb unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth/yn wleidyddol iawn a phopeth yn y canol.

Rydyn ni am glywed eich barn! Rydyn ni angen eich syniadau!

Pryd a ble?

Byddwn ni’n cynnal dau weithdy dwy awr ar-lein ar 10 a 17 Tachwedd, rhwng 16.30 a 18.30.

Bydd angen cyswllt rhyngrwyd a dyfais arnoch chi. Cysylltwch os oes angen cymorth arnoch chi i gysylltu â’r rhyngrwyd.

Sut ydw i’n cofrestru i gymryd rhan?

Gallwch wneud cais drwy’r ddolen hon: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/wales-constitutional-future

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio i gymryd rhan yw dydd Mercher 3 Tachwedd.

Byddwn yn gofyn i chi roi eich manylion cyswllt ac ychydig o wybodaeth amdanoch chi a pham hoffech chi ymuno â’r sesiynau. Gallwch ddewis pa fformat i’w ddefnyddio i ateb:

  • Ymateb sain neu fideo wedi’i recordio ar eich ffôn.
  • Ymateb ysgrifenedig (o leiaf 200 o eiriau a dim mwy na 500 o eiriau).
  • Llun/darlun/cartŵn.

Byddwn ni’n cysylltu erbyn dydd Gwener, 5 Tachwedd, i gadarnhau os oes lle i chi.

Pa mor hygyrch fydd hyn?

Mae cyllideb hygyrchedd ar gael i gefnogi (er enghraifft) iaith arwyddo a chymryd nodiadau.

Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg ar gael.

Cysylltwch os hoffech drafod eich gofynion hygyrchedd neu os oes angen cymorth i gysylltu â’r rhyngrwyd.

Pwy ydyn ni?

Rydyn ni’n grŵp o ymchwilwyr ac ymarferwyr creadigol gydag arbenigedd gwahanol, yn amrywio o wleidyddiaeth Cymru a democratiaeth i farddoniaeth a chynhyrchu theatr. Rydyn ni wedi derbyn cyllid gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i ddod â phobl ifanc at ei gilydd i helpu i gynllunio prosiect ymchwil newydd ar y cwestiwn ‘Pa fath o Gymru fyddech chi’n hoffi byw ynddi, a sut allwn ni gyrraedd yno?’

Ni yw: Anwen Elias, Matt Jarvis ac Eurig Salisbury (Prifysgol Aberystwyth), Matt Wall (Prifysgol Abertawe) ac Yvonne Murphy (Omidaze Productions).

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Anwen (awe@aber.ac.uk).